Origin: U.S.A.
(Import costs included in the price)
It will be shipped from our warehouse between Friday, July 12 and Friday, July 19.
You will receive it anywhere in United Kingdom between 1 and 3 business days after shipment.
Gweithgareddau Ategol Deall Defnyddiau
Jones, Alan ; Purnell, Roy ; O'Neill, Janet
Synopsis "Gweithgareddau Ategol Deall Defnyddiau"
Mae'r gyfres Gweithgareddau Ategol yn cynnwys gweithgareddau llun-gopïadwy i'w defnyddio gyda dysgwyr araf neu ddisgyblion gydag anawsterau dysgu yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae'r llyfrau'n cyflwyno un cysyniad ar bob taflen, gan ddefnyddio iaith syml a llinellau du clir ar luniau, sy'n eu gwneud yn hawdd i'w darllen a'i deall. Mae Deall Defnyddiau yn cynnwys 42 o daflenni llun-gopïadwy i helpu disgyblion i ddeall nodweddion defnyddiau trwy ymchwiliad. Mae'r taflenni'n atgyfnerthu dulliau ymchwil gwyddonol drwy fynnu bod disgyblion yn cynllunio, gwneud gweithgareddau ymarferol, ystyried tystiolaeth, a chyflwyno syniadau a chasgliadau. Mae nhw'n canolbwyntio ar greu grwpiau a dosbarthu defnyddiau, newid defnyddiau a gwahanu cymysgedd o ddefnyddiau. Mae hefyd yn cynnwys cysyniadau eraill fel grymoedd, gwres a magneteg yng nghyswllt deall nodweddion defnyddiau.